Manylion Bryn Dôl


bryndol1

Gyda golygfeydd dros Ben Llŷn, Ynys Enlli a’r Swnt mae’r bwthyn modern yma yn cynnig lle delfrydol i bobl sydd am ymweld a thraethau’r ardal, cerdded llwybrau’r fro neu wylio adar a bywyd gwyllt. Gyda gardd ddiogel, mae’r bwthyn yn agos i Borth Ysgo, a 3 milltir o bentref glan môr Aberdaron, gyda’i chasgliad o siopau, gwestai a llefydd bwyta. Mae pentref bywiog Abersoch, tref marchnad Pwllheli a Mynyddoedd Eryri yn agos.



bryndol8

Wedi ei leoli yng nghanol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn rydych o fewn tafliad carreg i rostiroedd arfordirol, cromlechi, bryngaerau a thraethau distaw. Cewch eich hudo gan dirlun godidog a gwyllt wedi ei amgylchynu gan y môr. Y lleoliad perffaith ar gyfer dianc am benwythnos gyda ffrinidiau, gwyliau rhamantus ac antur, neu gwyliau i’r teulu.

Ar agor drwy’r flwyddyn.



Hanes Lleol


Mae Bryn Dôl wedi ei leoli rhwng pentrefi Rhiw ac Aberdaron ym mhen pellaf Penrhyn Llŷn. Mae Rhiw yn un o’r pentrefi uchaf yn Llŷn, gyda golygfeydd gwych o Ben Llŷn, y Canolbarth a De Cymru, Ynys Môn, Mynyddoedd Eryri, ac Iwerddon ar ddiwrnod clir.

Mae cysylltiad agos iawn rhwng Aberdaron ac Ynys Enlli, gyda thripiau yn mynd yno o Borth Meudwy bob dydd yn yr Haf,pan fo’r tywydd yn ffafriol. Cewch bryd o fwyd yn y Gegin Fawr,lle byddai’r pererinion yn aros cyn croesi i Enlli. Os ewch i ben Mynydd Mawr yn Uwchmynydd, cewch olygfa wych o Enlli, dros y Swnt, a gweddill Llŷn. Mae’n werth croesi’r Swnt i fwynhau tangnefedd Enlli, lle dywedir fod ugain mil o saint wedi eu claddu.Wrth droed Mynydd Mawr, mae olion Eglwys Fair ac yn is i lawr yn y creigiau mae Ffynnon Fair, lle golchai’r pererinion blinedig eu traed cyn croesi’r Swnt peryglus mewn cyryglau bychain, a chyffwrdd daear gysegredig Enlli.

Mae’r môr yn rhan bwysig o fywyd pobl Llŷn ac wedi bod felly erioed. Â’r pysgotwyr allan i godi eu cewyll gan obeithio cael helfa dda o grancod a chimychiaid yn ogystal a mecryll a physgod eraill.Drylliwyd llawer o longau ym mae Porth Neigwl yn yr hen amser a dywedir fod pobl yr ardal yn elwa o’r hyn a olchid i’r lan, ac yn ôl yr hanes yn cymeryd modrwyau a phethau eraill oddiar gyrff y rhai anffodus gollodd eu bywydau ac a olchwyd i’r lan.

Mae llawer o olion bywyd yn yr hen amser yn yr ardal, yn cynnwys hen amddiffynfeydd, cromlechi a ffatri gwneud bwyeill o Oes y Cerrig.

Saif eglwys hynafol Sant Hywyn uwchben y traeth yn Aberdaron ac mae yn agored bob dydd. Bu’r bardd a chenedlaetholwr, R. S. Thomas yn ficer yma am rai blynyddoedd, ac ar ôl ymddeol bu’n byw mewn bwthyn bach uwchben Porth Neigwl ar dir Plas yn Rhiw.

Honna awduron ‘Journey to Avalon’, fod yn yr ardal gysylltiadau agos â’r Brenin Arthur, mai Ynys Enlli yw Ynys Afallon, ac mai yng Nghadlan, rhwng Rhiw ac Aberdaron, yr ymladdwyd Brwydr Camlan.

Dewch yma i fwynhau heddwch a phrydferthwch y Penrhyn. Cewch glywed yr iaith Gymraeg, cerdded llwybr yr arfordir, defnyddio’r llwybr beicio, mwynhau pob math o chwaraeon dŵr, ymlacio ar y traethau a gwledda ar fwydydd lleol o’r ffermydd ac o’r môr o’n cwmpas.

Gallwch gysylltu ag Arwel ac Anne Marie drwy :

  • Ffonio : O1758 78O 224
  • neu E-bost : Bryn Dôl